Survey privacy notice - Welsh

CYFLWYNIAD

Croeso ihysbysiad preifatrwydd ArolwgYonder Consulting Limited. Yonder Data Solutions yw enw masnachu Yonder Consulting Limited.

Mae Yonder yn parchu eich preifatrwydd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch yn cymryd rhan yn ein harolygon ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n gwaith o gasglu a phrosesu data personol mewn cysylltiad â’r wefan hon. Os hoffech wybod sut mae Yonder yn casglu ac yn prosesu eich data personol pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd ein Gwefan. Hefyd, os byddwch yn darparu data i ni ar-lein fel aelod o banel .Y Live, ein Hysbysiad Preifatrwydd .Y Live fydd yn berthnasol yn hytrach na’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Mae Yonder yn cynnal arolygon ymchwil i’r farchnad ar ran ei gleientiaid. Dim ond i arolygon lle mai Yonder yw’r rheolydd data mewn perthynas â’r arolwg y mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol.

· Os mai Yonder yn unig sy’n penderfynu pwy sy’n cymryd rhan yn yr arolwg a pha gwestiynau a ofynnir, yna Yonder fydd unig reolydd data’r arolwg a bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol ynghyd ag unrhyw hysbysiadau eraill a ddarperir ar ddechrau’r arolwg.

· Os bydd Yonder a’i gleient(iaid) yn rhannu’r cyfrifoldeb am benderfynu pwy sy’n cymryd rhan yn yr arolwg a pha gwestiynau a ofynnir, yna bydd yn gydreolydd ynghyd ag un neu fwy o’n cleientiaid, a bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol ynghyd ag unrhyw hysbysiadau eraill a ddarperir ar ddechrau’r arolwg, a allai gynnwys hysbysiad preifatrwydd ein cleient.

· Os mai ein cleient sy’n cadw rheolaeth gyffredinol dros bwy sy’n cymryd rhan yn yr arolwg a pha gwestiynau a ofynnir, a’n bod yn gweithredu ar gyfarwyddiadau ein cleient yn unig, yna bydd Yonder yn brosesydd data ar gyfer yr arolwg ac nid yn rheolydd data ac ni fydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol, dim ond yr hysbysiadau a ddarperir ar ddechrau’r arolwg.

Byddwn yn dweud wrthych ar ddechrau’r arolwg a yw Yonder yn gweithredu fel yr unig reolydd, fel cydreolydd neu fel prosesydd data mewn perthynas â’r arolwg. Os nad ni yw’r rheolydd data, neu os nad ni yw’r unig reolydd data, byddwn hefyd yn dweud wrthych pwy yw’r rheolyddion data.

Darperir yr hysbysiad preifatrwydd hwn mewn fformat haenog fel y gallwch glicio drwodd i’r meysydd penodol a nodir isod. Gallwch hefyd defnyddio’r Rhestr Termau i ddeall ystyr rhai o’r termau a ddefnyddir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

1. GWYBODAETH BWYSIG A PHWY YDYM NI

2. Y DATA A GASGLWN AMDANOCH CHI
3. SUT MAE EICH DATA PERSONOL YN CAEL EI GASGLU
4. SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL
5. DATGELU EICH DATA PERSONOL
6. TROSGLWYDDO’N RHYNGWLADOL
7. DIOGELEDD DATA
8. CADW DATA
9. EICH HAWLIAU CYFREITHIOL
10. RHESTR TERMAU

1. GWYBODAETH BWYSIG A PHWY YDYM NI

1.1 Diben yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Nod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am sut mae Yonder yn casglu ac yn prosesu eich data personol pan fyddwch yn cymryd rhan yn ein harolygon.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd arall neu hysbysiad prosesu teg y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio’ch data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ategu’r hysbysiadau eraill ac ni fwriedir iddo eu diystyru.

1.2 Rheolydd

Yonder Consulting Limited yw’r rheolydd ac mae’n gyfrifol am eich data personol (y cyfeirir ato yn ei gyfanrwydd fel “Yonder”, “ni” neu “ein” yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn).

Rydym wedi penodi swyddog diogelu data sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion a nodir isod.

1.3 Manylion Cyswllt

Enw’r cwmni: Yonder Consulting Limited

Enw neu deitl y Swyddog Diogelu Data: Mike Wooderson

Cyfeiriad e-bost: dataprotection@yonderconsulting.com

Cyfeiriad post: Northburgh House, 10 Northburgh Street, London, EC1V 0AT (Y Deyrnas Unedig)

Mae hawl gennych i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth felly gofynnir yn garedig i chi gysylltu â ni yn y man gyntaf.

1.4 Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd a’ch Dyletswydd i Roi Gwybod i ni am Newidiadau

Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ym mis Mai 2018 a gellir ei chael drwy gysylltu â ni.

Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os bydd eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

1.5 Cysylltiadau Trydydd Parti

Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion a chymwysiadau trydydd parti. Gall clicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd parti hyn ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan rydych yn ymweld â hi.

2. Y DATA A GASGLWN AMDANOCH CHI

2.1 Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohoni. Nid yw’n cynnwys data lle dilëir gwybodaeth y gellid adnabod y person ohoni (data dienw).

2.2 Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch yr ydym wedi’u grwpio fel a ganlyn:

• Mae Data Hunaniaeth yn cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, enw olaf, enw defnyddiwr neu ddynodwr tebyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhywedd.

• Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.

• Mae Data Ariannol yn cynnwys manylion cyfrifon banc a chardiau talu.

• Mae Data Trafodion yn cynnwys manylion am daliadau i chi.

• Mae Data Arolwg yn cynnwys yr ymatebion a rowch i unrhyw arolygon rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan ynddynt.

• Mae Data Cyfathrebu yn cynnwys eich gohebiaeth gyda ni ac unrhyw adborth a rowch am ein gwasanaethau.

2.3 Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfanredol fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall Data Cyfanredol ddeillio o’ch data personol ond nid yw’n cael ei ystyried yn ddata personol o dan y gyfraith gan nad yw’r data hwn yn datgelu pwy ydych chi, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cydgasglu eich Data Arolwg i gynnal ymchwil i’r farchnad ac ymchwil ystadegol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu’n cysylltu Data Cyfanredol â’ch data personol fel y gellid eich adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a gaiff ei ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

2.4 Byddem ond yn casglu Categorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhywiol, cyfeiriadedd rhywiol, barn wleidyddol, aelodaeth undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd a’ch data genetig a biometrig) neu wybodaeth am euogfarnau a throseddau troseddol gyda’ch caniatâd penodol, a dim ond pe bai’n berthnasol i arolwg, fel rhan o Ddata’r Arolwg.

2.5 Os nad ydych yn dymuno darparu data personol pan ofynnir amdano, efallai na fyddwch yn gallu cymryd rhan yn yr arolwg a chael cymhellion na buddion eraill am gymryd rhan mewn arolygon.

3. SUT MAE EICH DATA PERSONOL YN CAEL EI GASGLU

3.1 Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data gennych ac amdanoch gan gynnwys drwy:

Ryngweithio uniongyrchol. Gallwch roi eich Data Hunaniaeth, Cyswllt, Ariannol ac Arolwg i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy gyfatebu â ni drwy’r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol a ddarperir gennych pan fyddwch yn cymryd rhan yn ein harolygon neu’n rhoi adborth i ni.

Technolegau neu ryngweithio awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, efallai y byddwn yn casglu Data Technegol a Data Defnydd yn awtomatig am eich offer, a’ch gweithredoedd a phatrymau pori. Rydym yn casglu’r data personol hwn drwy ddefnyddio cwcis, logiau gweinydd a thechnolegau tebyg eraill. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn Data Technegol amdanoch os byddwch yn ymweld â gwefannau eraill sy’n defnyddio ein cwcis. Gallwch osod eich porwr i wrthod pob cwci porwr neu rai ohonynt, neu i’ch rhybuddio pan fydd gwefannau’n gosod neu’n cyrchu cwcis. Os byddwch yn analluogi neu’n gwrthod cwcis, noder y gallai rhai rhannau o’r wefan hon fod yn anhygyrch neu na fyddant yn gweithredu’n iawn. Gweler ein Polisi Cwcis am ragor o fanylion.

Ffynonellau trydydd parti neu rai sydd ar gael yn gyhoeddus. Efallai y byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan wahanol ffynonellau trydydd parti a chyhoeddus fel y nodir isod:

– Data Hunaniaeth a Chyswllt gan froceriaid data neu gydgasglwyr sydd wedi’u lleoli y tu mewn i’r UE.

– Data Hunaniaeth a Chyswllt o ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus fel Companies House a’r Gofrestr Etholiadol sydd wedi’u lleoli y tu mewn i’r UE.

4. SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

4.1 Rydym wedi nodi isod, ar ffurf tabl, ddisgrifiad o’r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio’ch data personol, a pha rai o’r seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau dilys lle y bo’n briodol.

4.2 Sylwch y gallwn brosesu eich data personol am fwy nag un sail gyfreithlon yn dibynnu ar y diben penodol yr ydym yn defnyddio’ch data ar ei gyfer. Cysylltwch â ni os oes angen manylion arnoch am y sail gyfreithlon benodol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un sail wedi’i nodi yn y tabl isod.

4.3 Cliciwch yma i gael gwybod mwy am y mathau o sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt i brosesu eich data personol.

4.4 Newid Diben

Byddwn ond yn defnyddio eich data personol at y dibenion y gwnaethom ei gasglu ar ei gyfer, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os hoffech gael esboniad o sut mae’r prosesu at y diben newydd yn gydnaws â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni.

Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn eich hysbysu a byddwn yn esbonio’r sail gyfreithlon sy’n ein galluogi i wneud hynny.

Sylwch y gallem brosesu eich data personol heb eich gwybodaeth na’ch caniatâd, yn unol â’r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu gan y gyfraith.

5. DATGELU EICH DATA PERSONOL

5.1 Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol gyda’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 4 uchod.

• Gallwn hefyd ddatgelu gwybodaeth i Yonder Consulting Limited Group sydd wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig gan weithredu fel cydreolyddion os cynhelir arolwg ar ran cwmni Yonder Consulting Limited Group ac eithrio Yonder Data Solutions.

• Darparwyr gwasanaethau sy’n gweithredu fel proseswyr sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig yn darparu gwasanaethau TG a gweinyddu systemau.

• Cynghorwyr proffesiynol sy’n gweithredu fel proseswyr neu reolyddion gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig yn darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.

• HM Revenue & Customs rheolyddion ac awdurdodau eraill sy’n gweithredu fel proseswyr neu reolyddion sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig y mae angen arnynt adroddiad(au) am weithgareddau prosesu mewn rhai amgylchiadau.

• Cwmnïau geodemograffig fel Experian sy’n gweithredu fel proseswyr sydd wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig sy’n rhoi dadansoddeg a mewnwelediadau ychwanegol i ni ar gyfer ein harolygon.

• Trydydd partïon y gallwn ddewis gwerthu neu drosglwyddo ein busnes neu ein hasedau iddynt, neu uno rhannau o’n busnes neu ein hasedau â nhw. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â nhw. Os bydd newid yn digwydd i’n busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio’ch data personol yn yr un modd ag a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

5.2 Oni bai ein bod wedi eich hysbysu ar ddechrau’r arolwg neu wedi cael eich caniatâd fel rhan o’r arolwg, nid ydym yn datgelu Data Arolwg i’n cleientiaid sy’n ddata personol. Mae Data’r Arolwg yn ddienw ac yn cael ei rannu gyda’n cleientiaid a thrydydd partïon eraill ar ffurf generig nad datgelu pwy ydych chi. Er enghraifft: “Mae 8 o bob 10 o bobl yn y DU yn hapus gyda’u swydd bresennol”.

5.3 Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio’ch data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodedig ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.

6. TROSGLWYDDO’N RHYNGWLADOL

6.1 Pryd bynnag y byddwn yn trosglwyddo eich data personol allan o’r AEE, rydym yn sicrhau y caiff ei drin â lefel debyg o ddiogelwch drwy sicrhau bod o leiaf un o’r mesurau diogelu canlynol ar waith:

• Rydym ond yn trosglwyddo eich data personol i wledydd mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried eu bod yn darparu lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer data personol. I gael rhagor o fanylion, gweler Comisiwn Ewropeaidd: Diogonolrwydd diogelwch data personol yng ngwledydd y tu allan I’r UE.

• Pan fyddwn yn defnyddio rhai darparwyr gwasanaethau, efallai y byddwn yn defnyddio contractau penodol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n amddiffyn data personol i’r un graddau ag yn Ewrop. I gael rhagor o fanylion, gweler Comisiwn Ewropeaidd: Contractau model ar gyfer trosglwyddo data personol I drydydd gwledydd.

• Lle rydym yn defnyddio darparwyr sydd wedi’u lleoli yn yr Unol Daleithiau, efallai y byddwn yn trosglwyddo data iddynt os ydynt yn rhan o’r Darian Preifatrwydd (“Privacy Shield”) sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt amddiffyn i lefel debyg ddata personol a rennir rhwng Ewrop a’r UD. I gael rhagor o fanylion, gweler Comisiwn Ewropeaidd: Tarian Preifatrwydd yr UE- UD .

6.2 Cysylltwch â ni os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y mecanwaith penodol a ddefnyddir gennym wrth drosglwyddo eich data personol allan o’r AEE.

7. DIOGELEDD DATA

7.1 Rydym wedi sefydlu mesurau diogeledd priodol i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei gyrchu’n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad i’ch data personol i’r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill sydd ag angen busnes i wybod. Dim ond wrth ddilyn ein cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

7.2 Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw achos tybiedig o dorri amodau data personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reolyddion perthnasol o doriad lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

8. CADW DATA

8.1 Am ba hyd y byddwch yn defnyddio fy Nata Personol?

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y gwnaethom ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am aelodau ein panel (gan gynnwys Data Cyswllt, Hunaniaeth, Ariannol a Thrafodion) am chwe blynedd ar ôl iddynt roi’r gorau i fod yn aelodau, at ddibenion treth.

Mewn rhai amgylchiadau gallwch ofyn i ni ddileu eich data: gweler cais i ddileu isod am ragor o wybodaeth.

Efallai y byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel na all fod yn gysylltiedig â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegol ac os felly, efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb rybudd pellach i chi.

9. EICH HAWLIAU CYFREITHIOL

9.1 O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol.

• Gofyn am fynediad i’ch data personol.

• Gofyn am gywiro eich data personol.

• Gofyn am ddileu eich data personol.

• Gwrthwynebu prosesu eich data personol.

• Gofyn am gyfyngiad ar brosesu eich data personol.

• Gofyn am drosglwyddo eich data personol.

• Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl.

9.2 Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

9.3 Nid Oes Angen Ffi Fel Arfer

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad i’ch data personol (nac i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’ch cais o dan yr amgylchiadau hyn.

9.4 Yr hyn y gallai fod ei angen arnom gennych chi

Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i’n helpu i gadarnhau pwy ydych chi a sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mesur diogeledd yw hwn i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes ganddynt hawl i’w dderbyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn i chi am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais i gyflymu ein hymateb.

9.5 Terfyn Amser i Ymateb

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. O bryd i’w gilydd, gall gymryd mwy na mis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod.

10. RHESTR TERMAU

10.1 Sail Gyfreithlon• Mae Cydsyniad yn golygu prosesu eich data lle rydym wedi cael caniatâd penodol, gwybodus a diamwys a roddwyd yn rhydd gennych. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg a byddwn wedyn yn rhoi’r gorau i brosesu eich gwybodaeth at y diben hwnnw.

• Mae Buddiant Dilys yn golygu buddiant ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i’n galluogi i roi’r gwasanaeth/cynnyrch gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (cadarnhaol a negyddol) a’ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau dilys. Nid ydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae’r effaith arnoch chi yn golygu bod ein buddiannau’n cael eu diystyru (oni bai bod gennym eich caniatâd neu os yw’n ofynnol neu y caniateir i ni wneud fel arall yn ôl y gyfraith). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn asesu ein buddiannau dilys yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch mewn perthynas â gweithgareddau penodol drwy gysylltu â ni.

• Mae Perfformiad y Contract yn golygu prosesu eich data pan fo’n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract yr ydych yn barti ynddo neu i gymryd camau yn unol â chais gennych cyn ymrwymo i gontract o’r fath.

• Mae Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu prosesu eich data personol lle mae’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi.

10.2 Eich Hawliau Cyfreithiol

Mae gennych yr hawl i:

Ofyn am fynediad i’ch data personol (a elwir yn gyffredin yn “gais am fynediad at ddata gan y testun”). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol sydd gennym amdanoch ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.

Gofyn am gywiro’r data personol sydd gennym amdanoch. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a rowch i ni.

Gofyn am ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar ddata personol lle nad oes rheswm da i ni barhau i’w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar eich data personol lle rydych wedi arfer eich hawl yn llwyddiannus i wrthwynebu prosesu (gweler isod), lle y gallem fod wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae’n ofynnol i ni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio â chyfraith leol. Sylwer, fodd bynnag, efallai na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol a fydd yn cael eu hysbysu i chi, os yw’n berthnasol, ar adeg eich cais.

Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiant trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy’n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol neu os ydym yn prosesu eich data personol at ddibenion ymchwil ystadegol, oni bai bod y prosesu yn angenrheidiol er budd y cyhoedd. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos bod gennym seiliau dilys cymhellol i brosesu eich gwybodaeth a bod hyn yn golygu y caiff eich hawliau a’ch rhyddid eu diystyru.

Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddod i ben â’r gwaith o brosesu eich data personol dros dro, yn y sefyllfaoedd canlynol: (a) os ydych chi am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) pan fo ein defnydd o’r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; (c) lle mae arnoch angen i ni gadw’r data hyd yn oed os nad oes ei angen arnom mwyach, gan fod ei angen arnoch i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (d) eich bod wedi gwrthwynebu ein bod yn defnyddio eich data ond mae angen i ni gadarnhau a oes gennym sail ddilys i’w ddefnyddio sy’n golygu y caiff eich gwrthwynebiad ei ddiystyru.

Gofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu i chi, neu drydydd parti rydych chi wedi’i ddewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin, y gellir ei ddarllen gan beiriant. Sylwch fod yr hawl hon ddim ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y gwnaethoch roi caniatâd i ni ei defnyddio neu lle gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth i gyflawni contract gyda chi.

Tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg pan rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu cynhyrchion neu wasanaethau penodol i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn berthnasol pan fyddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.